Bechadur gwel yn hongian Dy Brynwr ar y groes! O clyw riddfanau'i enaid Yn nyfnder angau loes! Mae'n bywyd yn ei glwyfau; Mae ei och'neidiau drud Yn floedd yn nghlustiau'r Nefoedd Am faddeu beiau'r byd. Agorodd ddrws i'r caethion I ddod o'r cystudd mawr; Â'i werthfawr waed fe dalodd Eu dyled oll i lawr: Yn ymchwydd yr Iorddonen, Ac yn y farn a ddaw, Diangol yn y diwedd A fyddaf yn ei law.Morgan Rhys 1716-79
- - - - -
Bechadur, gwel yr Iesu
Yn hongian ar y groes,
Clyw ddwys ruddfanau'i enaid
Dan ddyfnder angeu loes:
O! gwrandaw ar ei ruddfan -
Mae pob ochenaid ddrud
Yn floedd yn nghlustiau'r nefoedd
Am faddeu beiau'r byd.
Fe ddaeth i wella'n harcholl
Trwy gym'ryd clwyf ei Hun;
Etifedd nef yn marw
I wella euog ddyn:
Yn sugno'n llwyr y gwenwyn
A rôdd y sarph i ni;
A thrwy y gwenwyn hwnw
Yn marw ar Galfari.
Ni fuasai genyf obaith
Am ddim ond fflamau syth,
Y pryf nad yw yn marw,
A'r t'wyllwch dudew byth,
Oni busai'i Hwn a, hoeliwyd
Ar fynydd Calfari,
O'i fawr anfeidrol gariad
I gofio am danaf fi.
1 : Morgan Rhys 1716-792-3: William Williams 1717-91
Tôn [7676D]: gwelir: Agorodd ddrws i'r caethion Angylion doent yn gysson Fy Nhad fy addfwyn Iesu Ni fuasai gennyf obaith O enw ardderchocaf |
Sinner see hanging Thy Redeemer on the cross! O hear the groans of his soul In the depths of the death throes! There is life in his wounds; His dear moans are Shouting in the ears of Heaven For forgiveness of the world's faults. The doors opened for the captives To come from the great affliction; With his precious blood he paid All their debt down: In the swelling of the Jordan, And in the judgment to come, Freedom in the end Will be in his hand.
- - - - -
Sinner, see Jesus
Hanging on the cross,
Hear the intense groans of his soul
Under the depth of the throes of death:
O listen to his groan -
Every costly sigh is
A shout in the ears of heaven
For forgiveness for the world's faults.
He came to hear our injury
Through taking the wound Himself;
The Heir of heaven dying
To heal guilty man:
Sucking out completely the poison
Which the serpent gave to us;
And through that poison
Dying on Calvary.
I would have had no hope
For anything but immediate flames,
The worm that does not die,
And the pitch-black darkness forever,
Unless He, who was crucified
On mount Calvary, had
Of his great, immeasurable love
Remembered me.
tr. 2010,17 Richard B Gillion
|
|